Blog

During each residency, guests will publish blog entries through which the interested public will be able to track their journey through the locations included in the project.

Ulysses's Shelter 1 (2018/2019) residents: Christos Armando Gezos, Greece, poetry; Lena Kallergi, Greece, poetry; Vasileia Oikonomou, Greece, poetry; Thanos Gogos, Greece, poetry; Lara Mitraković, Croatia, poetry; Jasmina Mujkić, Croatia, poetry; Goran Čolakhodžić, Croatia, poetry; Antej Jelenić, Croatia, poetry; Urška Kramberger, Slovenia, poetry; Denis Škofič, Slovenia, poetry; Aljaž Koprivnikar, Slovenia, poetry; Katja Gorečan, Slovenia, poetry.
 
Ulysses's Shelter 2 (2020/2022) residents: Maja Klarić, Croatia, poetry; Maja Ručević, Croatia, translation; Dino Pešut, Croatia, prose; Marija Andrijašević, Croatia; prose & poetry; Katja Grcić, Croatia, poetry; Josip Ivanović, Croatia, translation; Eluned Gramich, Wales, prose; Steven Hitchins, Wales, poetry; Lloyd Markham, Wales, prose; Elan Grug Muse, Wales, prose; Dylan Moore, Wales, prose & non-fiction travel writing; Morgan Owen, Wales, poetry; Maša Seničić, Serbia, poetry; Nataša Srdić, Serbia, translation; Danilo Lučić, Serbia, prose; Goran Stamenić, Serbia, prose; Katarina Mitrović, Serbia, poetry & prose; Vitomirka Trebovac, Serbia, poetry & prose; Dejan Koban, Slovenia, poetry; Davorin Lenko, Slovenia, prose; Katja Zakrajšek, Slovenia, translation; Tomo Podstenšek, Slovenia, prose, novel & short stories; Uroš Prah, Slovenia, poetry & translation; Ana Svetel, Slovenia, poetry & prose; Thomas Tsalapatis, Greece, prose; Marilena Papaioanou, Greece, prose; Dimitris Karakitsos, Greece, poetry; Filia Kanellopoulou, Greece, poetry; Nikolas Koutsodontis, Greece, poetry; Iakovos Anyfantakis, Greece, prose.
 
Ulysses's Shelter 3 (2022/2023) residents: Sven Popović, Croatia, prose, translation; Marina Gudelj, Croatia, prose; Tibor Hrs Pandur, Slovenia, poetry & translation; Ajda Bračič, Slovenia, pose; Sergej Harlamov, Slovenia, poetry; Tonia Tzirita Zacharatou, Greece, poetry; Marios Chatziprokopiou, Greece, poetry; Ivana Maksić, Serbia, poetry; Ognjen Aksentijević, Serbia, poetry & prose; Jake Butttigieg, Malta, poetry, prose & translation; Matthew Schembri, Malta, poetry, prose & translation; Jan Škrob, Czech Republic, poetry & translation; Marek Torčik, Czech Republic, poetry & prose; Esyllt Angharad Lewis, Wales, translation & prose; Ruqaya Izzidien, Wales, translation.

Ulysses's Shelter 3 (2023/2024) residents: Dora Šustić, Croatia, prose & screenplays; Lana Pukanić, Croatia, prose & essays; Aljaž Primožič, Slovenia, poetry & plays; Kaja Teržan, Slovenia, poetry; Nežka Struc, Slovenia, poetry; Ivan Antić, Slovenia, short stories, poetry & translation; Efstathia Paliotzika, Greece, poetry; Natassa Sideri, Greece, prose, theatre & translation; Jelena Žugić, Serbia, poetry, prose & translation; Virginia Monteforte, Malta, translation; Ryan Falzon, Malta, prose; Laura Torres, Spain, poetry; Jacobo Bergareche, Spain, prose; Aitana Ahrens, Spain, poetry & screenplays; Kristina Nesvedová, Czech Republic, prose; Sára Vybíralová, Czech Republic, prose & translation; Megan Angharad Hunter, Wales, prose & translation; Rebecca Wilson, Wales, screenplays.

Ulysses's Shelter 3 (2024/2025) residents: Luiza Bouharaoua, Croatia, prose; Josip Čekolj, Croatia, poetry; Danae Sioziou, Greece, poetry; Ioanna Lioutsia, Greece, translation, poetry & theatre; Višnja Begović, Serbia, poetry; Đorđe Božović, Serbia, prose & translation; Kat Storace, Malta, translation; Gabriel Schembri, Malta, prose; Klára Krásenská, Czech Republic, poetry; Ondřej Lipár, Czech Republic, poetry; Steffan Phillips, Wales, poetry; Emyr Humphreys, Wales, translation.

Steffan Phillips: pontydd

karlův most. most legií. čechův most. mánesův most. rhai o bontydd praha sy’n cysylltu dwy lan yr afon vltava. pontydd y des i i’w hadnabod yn dda yn ystod fy mhreswyliad pythefnos o hyd yn y ddinas. pontydd sydd wedi troi’n symbol o’r holl brofiad.

 

cyfieithiadau pont

 

ar ôl derbyn y cynnig i fod yn rhan o garfan ulysses’ shelter 3 a phreswyliad ysgrifennu ym mhraha, y cam cyntaf oedd cyfieithu rhai o fy ngherddi cymraeg i’r saesneg. cyfieithiadau pont y gellid eu defnyddio wedyn i greu fersiynau tsieceg. a dyma fy ngorwelion yn ehangu. do’n i erioed, yn fy naïfrwydd, wedi ystyried mor amlweddog oedd y broses gyfieithu. drysau yn agor ac yn cau. penderfynais gadw pethau’n syml. cyfieithiadau llythrennol i’r saesneg. ceisio atal rhag rhyddhau’r awenau creadigol yn ormodol. fersiynau craidd oedden nhw wedi’r cwbl, y byddai modd i tomáš míka, bardd o braha, eu defnyddio. hyd yn oed gyda dim ond fy nwy iaith, daeth cymaint o opsiynau i’r amlwg. ystyr geiriau, rhythmau, sain, agweddau rhyngdestunol, dywediadau. cefais gyngor i gynnwys nodiadau gyda’r cyfieithiadau pont er mwyn esbonio unrhyw gyfeiriadaeth neu ystyr benodol. mae hyn yn profi fod geiriau yn fwy na dim ond rhywbeth y gellid twrio amdanynt mewn geiriadur.

y peth braf yw fy mod wedi darganfod sut y gall cyfieithu cerddi i’r saesneg gyfoethogi’r cymraeg gwreiddiol. mae’n cynnig lens newydd i graffu ar y gwaith. fel dod o hyd i bont newydd i groesi afon a sylwi ar y golygfeydd o ongl arall wrth gerdded.

 

pontio pobl

 

dw i’n gyfarwydd â pherfformio cerddi o flaen cynulleidfaoedd byw yng nghymru, ond roedd perfformio yn czechia yn brofiad gwahanol. y gwrando yn wahanol. ar yr wyneb yn fwy difrifol. yn fwy gofalus? y cymeradwyo rhwng cerddi yn brin. roedd hyn ychydig yn ddigalon i ddechrau, ond des i’n gyfarwydd â’r etiquette. mae’n gwneud rhywun i ystyried perthynas bardd, ei gyfrwng a’i gynulleidfa. ydw i’n gorfeddwl hyn?

y peth hyfrytaf am y preswyliad i mi oedd creu cysylltiadau gyda phobl. yn y digwyddiadau ac wrth gymdeithasu y tu hwnt iddynt. dod i adnabod pobl ddiddorol, caredig a thalentog. dysgu am eu bywydau a’u hymarferion creadigol. beth oedd yn eu hysbrydoli a’r materion oedd yn rhoi tân yn eu boliau. clywed sut oedd eu cerddi (mewn ieithoedd dieithr) yn canu, yn llifo. sgyrsiau am y gynghanedd, gwleidyddiaeth, opidwmau celtaidd, hip-hop, rym. bernie, tomáš, višnja, marija (x2), zofia, šimon, ivan, klára... diolch am y pleser o rannu’r profiad gyda chi, dw i’n edrych ymlaen at gwrdd eto.

 

pontio amser

 

cefais fy nghyfareddu gan žižkovský vysílač. tŵr brwtalaidd yng nghanol y gothig a’r dadeni a’r baróc. yn chwarae pi-po rownd corneli stryd wrth i mi fynd am dro o gwmpas yr ardal gyfagos. atgof o gyfnod y rhyfel oer, y dwyrain a’r gorllewin, ddim fy mod i’n cofio’r cyfnod.

mae’n ddweud mawr, ond dw i’n teimlo fy mod yn deall y byd yn well o ganlyniad i’r preswyliad. roedd y preswyliad ei hun yn cyd-daro â digwyddiadau i nodi 35 mlynedd ers cwymp wal berlin a’r velvet revolution. roedd profi hyn, miloedd o bobl yn cynnau canhwyllau coch ger václavák i goffáu’r chwyldro, dysgu mwy am yr hanes, ac ystyried ein byd ni heddiw yn ei gyd-destun yn agoriad llygad, yn ennyn syniadau creadigol.

swreal oedd gweld pentwr o ddalen-nodyddion gydag un o fy ngherddi arnynt mewn tsieceg ar gownter siop prifysgol karlova. prifysgol oedd yn gartref i franz kafka, bohumil hrabal a karel hynek mácha i enwi rhai.

 

pont i’r pamffled

 

deillia’r enw praha o’r hen air slafaidd, práh, sy'n golygu ‘rhyd’ neu ‘cyflym’ – cyfeiriad at y vltava sy’n llifo drwy’r ddinas. mae’n wir dweud ar ôl cyflwyno syniad o bamffled i gyhoeddwr a derbyn cynnig i’w gyhoeddi, dw i wedi teimlo fel fy mod yn sownd mewn cerrynt afon wrth geisio cyrraedd y pen arall, a mynd i brint. efallai bod rhan ohonof ddim hyd yn oed eisiau cyrraedd yr ochr arall. yn ofni gollwng gafael ar gerddi personol a’u rhyddhau i’r byd. rhoddodd y preswyliad gyfeiriad o’r newydd i mi. hyder a chymhelliant. pont drosiadol i’r ochr arall.

y gobaith oedd manteisio ar yr amser ym mhraha i olygu’r pamffled hwn. fy mhamffled cyntaf o gerddi. bûm yn crwydro dipyn yn fwy nag eistedd wrth ddesg, ond yn y bôn mae hynny wedi bod yn llesol i’r cyhoeddiad. yn gyfle i fyfyrio ar y cyfanwaith yn hytrach nag ar fanion fel ansoddeiriau.

un prynhawn heulog dw i’n cofio cerdded tua bont čechův most ar ôl bod yn ymweld ag arddangosfa yn y veletržní palác. bron yn gallu clywed y gerddorfa yn tiwnio yn neuadd gyngerdd y rudolfinum yr ochr draw. ac atgoffa fy hun mai un symffoni yn unig fydd y pamffled hwn. yr un dw i eisiau ei pherfformio nawr. mae angen bod yn falch o hynny. a gweld y bont yn ymestyn o fy mlaen.


IMPRESSUM

 

Sandorf - publishing house founded in 2008, engaged in Croatian literature and literature in translation, and in a wide range of books in humanities.

 

Center for Research and Promotion of Urban Culture (CIP) is a non-profit association that has existed for twenty years. Established in 1998, it operates in the areas of culture and art, urbanism, youth mobility and social dialogue.

 

Editor in chief: Ivan Sršen

Managing editor: Jana Smrekar

Editorial board: Matko Abramić, Thanos Gogos, Sena Zereyak
Graphic editor: Nikša Eršek

Website maintenance: Nabukodonozor d.o.o.

 

 




 

Address

Severinska 30, 10110 Zagreb, Hrvatska

Call Us

+ 385 (0)1 789 8457